4ydd CYFARFOD FFORWM RHYNGSENEDDOL Y PWYLLGORAU CYLLID
19eg Mawrth 2025
Cyfarfu Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid (y Fforwm) am y pedwerydd tro ar 19eg Mawrth 2025 yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.
Cadeiriwyd y cyfarfod i ddechrau gan Diane Forsythe MLA, Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac yna gan Matthew O'Toole MLA, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a ymunodd yn ddiweddarach, gyda chefnogaeth Kenneth Gibson ASA, Cynullydd Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban a Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru.
Roedd cynrychiolwyr o’r tri phwyllgor yn bresennol yn y cyfarfod.
Cynhaliwyd y sesiynau anffurfiol a ganlyn:
· Cyfarfod 15 munud ar-lein gyda'r Gwir Anrhydeddus Darren Jones AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys (CST)
· Cyfarfod â John O'Dowd, Gweinidog Cyllid Gweithredol Gogledd Iwerddon; a
· Cyfarfod gyda Syr Robert Chote, Cadeirydd Cyngor Cyllidol Gogledd Iwerddon.
Rhoddodd pob Pwyllgor ddiweddariadau ynglŷn â'u rhaglenni gwaith priodol a bu trafodaeth ynglŷn ag Adroddiad Gwaddol yn cwmpasu pedwar cyfarfod y Fforwm a gynhaliwyd hyd yma.
Cytunodd y Fforwm i anfon llythyr ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn croesawu ei ymgysylltiad â'r Fforwm, er bo hynny am gyfnod cyfyngedig iawn a thrwy alwad fideo, ac yn adleisio ei awydd datganedig ef a Llywodraeth y DU i ailosod perthnasoedd a chydweithio'n agosach, a cheisio gweithredu o ran y materion canlynol:
· Bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a/neu'r Canghellor yn ymateb yn ffafriol i wahoddiadau i roi tystiolaeth i'n priod Bwyllgorau, yn enwedig o ystyried y craffu cadarn y mae pwyllgorau cyllid yn ei gymhwyso i gyllidebau cyffredinol y Llywodraethau Datganoledig a'r ffaith bod ein cyllidebau mor ddibynnol ar weithredoedd y Trysorlys.
Dylai'r ystyriaeth o wahoddiadau o'r fath adlewyrchu'r canllawiau a nodir yn Nodyn Datganoli 12, o gofio bod ymgysylltu o'r fath yn arfer mewn sesiynau seneddol blaenorol; a
· Rhagor o ymgysylltiad â'r Trysorlys yn ehangach er mwyn caniatáu i'r Aelodau drafod dyrannu cyllidebau a chyllid arall i'r llywodraethau datganoledig, ynghyd â rhagor o wybodaeth a gwell gwybodaeth a rhagor o dryloywder ynghylch penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth y DU sy'n effeithio ar Lywodraethau Datganoledig.
· Y bydd yr ohebiaeth hon yn cael ei chopïo i Bwyllgor Dethol y Trysorlys.
· Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu yn mynegi eu diolch i'r Gweinidog O'Dowd a Syr Robert Chote am eu cyfraniadau.
Rhannodd y tri Phwyllgor hefyd ddiweddariadau ynghylch eu rhaglenni gwaith priodol, gan ganolbwyntio'n arbennig ar feysydd o ddiddordeb cyffredin y gellid eu harchwilio'n llawnach yn y dyfodol.
Cytunodd yr Aelodau y dylid defnyddio'r Fforwm fel cyfrwng ar gyfer rhannu gwybodaeth a chydweithio rhwng y Pwyllgorau, gyda chydnabyddiaeth fod y Pwyllgorau’n cael mwy o ddylanwad wrth weithredu gyda'i gilydd.
Cytunwyd y byddai Adroddiad Gwaddol yn tynnu sylw at waith y Fforwm hyd yma yn cael ei gynhyrchu i'w gymeradwyo gan y Pwyllgorau.
Cafwyd consensws wrth gymeradwyo gwaith y Fforwm a chytundeb y dylai'r gwaith hwn barhau cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn dilyn etholiadau Senedd yr Alban a Senedd Cymru yn 2026.
Yn bresennol:
· Kenneth Gibson ASA, Cynullydd Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban
· Ross Greer ASA, Aelod o Bwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban
· Craig Hoy ASA, Aelod o Bwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban
· Liz Smith ASA, Aelod o Bwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban
· Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd
· Sam Rowlands AS, Aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd
· Rhianon Passmore, Aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd
· Matthew O'Toole MLA, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Gogledd Iwerddon
· Diane Forsythe MLA, Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Gogledd Iwerddon
· Phillip Brett MLA, Aelod o Bwyllgor Cyllid Gogledd Iwerddon
· Eóin Tennyson MLA, Aelod o Bwyllgor Cyllid Gogledd Iwerddon
· Jemma Dolan MLA, Aelod o Bwyllgor Cyllid Gogledd Iwerddon
· Paul Frew MLA, Aelod o Bwyllgor Cyllid Gogledd Iwerddon
· Dr Steve Aiken OBE MLA, Aelod o Bwyllgor Cyllid Gogledd Iwerddon
· Gerry Carroll MLA, Aelod o Bwyllgor Cyllid Gogledd Iwerddon